SL(6)316 – Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

O dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 (“y Ddeddf”), cyflwynwyd newidiadau, sy’n berthnasol i’r DU gyfan, i'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer deiliaid swyddi barnwrol, gan ei godi o 70 i 75 oed. Sefydlwyd un drefn ddeddfwriaethol sy'n llywodraethu deiliaid swydd farnwrol sy'n eistedd mewn ymddeoliad. Nid yw penodiadau o'r fath yn ymestyn y tu hwnt i'r oedran ymddeol gorfodol o 75. Mae’r Ddeddf yn creu cyfres o swyddi barnwrol eistedd mewn ymddeoliad sy'n cyfateb i swyddi barnwrol gwreiddiol.  Cytunodd y Senedd ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Ddeddf ar 8 Chwefror, 2022.  

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw'r awdurdod penodi ar gyfer y swyddi barnwrol eistedd mewn ymddeoliad newydd sy'n cyfateb i'r swyddi barnwrol gwreiddiol yn Nhribiwnlysoedd Cymru. Mae “person cymwys” i'w benodi i swydd eistedd mewn ymddeoliad yn berson sy’n dal neu sydd wedi dal swydd ragnodedig, ac yn berson o unrhyw ddisgrifiad arall a ragnodir. Ystyr “rhagnodedig” yw wedi'i ragnodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn, felly, yn rhagnodi'r swyddi barnwrol y mae'n rhaid i berson eu dal neu fod wedi'u dal cyn eu hymddeoliad i fod yn gymwys i gael eu penodi i swydd benodol eistedd mewn ymddeoliad. Mae'n ofynnol i'r Rheoliadau gael eu sefydlu cyn y gall Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru arfer pwerau a roddir gan adran 124 o'r Ddeddf i benodi personau cymwys i swyddi eistedd mewn ymddeoliad am fod y person dal sylw’n dal neu wedi dal swydd farnwrol wreiddiol gyfatebol.

Gweithdrefn

Negyddol

Cafodd y Rheoliadau eu gwneud gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Craffu Technegol

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Pennawd yr Atodlen yw “Swyddi Barnwrol a Restrir yn Rhan 5 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a Swyddi Rhagnodedig Cyfatebol”.  Nid yw’ term ‘Deddf” wedi’i ddiffinio yn y Rheoliadau a, chan hynny,  nid yw’n glir pa Ddeddf y cyfeirir ati.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg.

Yn rheoliad 2, mae nifer o wallau a gwahaniaethau—

(a)    yn y testun Saesneg, mae’r diffiniad yn dechrau â phrif lythyren “Legally…” ond mae’r term diffiniedig yn y testun Cymraeg yn dechrau â llythyren fach;

(b)    yn nhestun y ddwy iaith, mae’r diffiniadau yn yr iaith gyfatebol a roddir mewn cromfachau ac mewn llythrennau italig wedyn ychydig yn wahanol i’r diffiniadau gwirioneddol, fel a ganlyn—

i.              yn y testun Saesneg, dylai’r diffiniad Cymraeg cyfatebol gynnwys y geiriau “wedi ymgymhwyso yn y gyfraith” i fod yn gyson â’r diffiniad gwirioneddol, ond mae’r fannod ar goll ac, yn lle hynny, ceir “wedi ymgymhwyso yn gyfraith”;

ii.             yn y testun Cymraeg, dylai’r diffiniad Saesneg cyfatebol ddechrau â phrif lythyren “Legally qualified …” i fod yn gyson â’r diffiniad gwirioneddol ond, yn lle hynny, mae’n dechrau â llythyren fach;

(c)    yn y testun Cymraeg, ym mharagraff (b), nid yw'r cyfieithiad yn cynnwys dim i gyfleu ystyr “at least” yn y cymal “at least five years’ standing”. O ganlyniad, ystyr y cyfieithiad yw “of five years standing”.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(viii) – mae’n defnyddio iaith ryw benodol.

Yn y testun Saesneg, cyfeirir at rai swyddi penodol ac mae’r rhain yn cynnwys y geiriau “chairman” a “deputy chairman”. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol:

Oherwydd bod y fframwaith statudol ar gyfer pob Tribiwnlys Cymreig yn diffinio'r swyddi barnwrol gwreiddiol y mae'r Ddeddf yn creu swyddi cyfatebol eistedd mewn ymddeoliad mewn perthynas â hwy, mae'r derminoleg bresennol sy'n diffinio'r swyddi gwreiddiol hynny wedi'i chario drwodd i'r Rheoliadau.  Mae'r dull hwn wedi'i ddilyn gan gynnwys lle y bernir bod terminoleg y ddeddfwriaeth hŷn yn hen ffasiwn. Y rhesymeg dros wneud hynny yw cynnal eglurder o ran y swydd farnwrol wreiddiol ragnodedig mae'n rhaid i berson ei dal neu fod wedi'i dal i fod yn gymwys i gael ei benodi i'r swydd gyfatebol eistedd mewn ymddeoliad.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol:

Gwneir y Rheoliadau gyda chytundeb Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac ymgynghorwyd â'r Llywydd wrth iddynt gael eu paratoi.  Ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad pellach mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn sy'n weinyddol ac yn dechnegol eu natur.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol 1:
 Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y byddai wedi bod yn gliriach i’r darllenydd pe bai’r term “y Ddeddf” ym mhennawd yr Atodlen wedi’i ddiffinio. Mae’r Llywodraeth yn derbyn mai hepgoriad yw hyn ond, ar ôl ystyried y mater, mae o’r farn na fyddai’n briodol gwneud diwygiad na chywiriad i gywiro’r gwall.

Ein rheswm dros ddod i’r casgliad hwn yw ei bod yn ddigon clir mai’r Ddeddf y cyfeirir ati yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022. Deddf 2022 yw’r unig ddeddfwriaeth alluogi ar gyfer y Rheoliadau ac nid oes unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau at ddeddfwriaeth arall. Mae’r Llywodraeth yn diolch i’r Pwyllgor am dynnu ei sylw at yr hepgoriad. Fodd bynnag, am y rhesymau a nodir uchod, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu gadael yr offeryn fel ag y mae.

Pwynt Craffu Technegol 2(a):
Mae’r Llywodraeth yn cydnabod yr anghysondeb yn y defnydd o briflythyren gyntaf a llythyren fach gyntaf yn y term a ddiffinnir yn y testunau Cymraeg a Saesneg, Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ystyr y Rheoliadau na chysondeb rhwng y ddau destun.

Pwynt Craffu Technegol 2(b)(i):
Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod y fannod “y” ar goll o’r diffiniad Cymraeg yn y testun Saesneg. Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ystyr y Rheoliadau na chysondeb rhwng y testunau.

Pwynt Craffu Technegol 2(b)(ii):
Mae’r Llywodraeth yn cydnabod yr anghysondeb yn y defnydd o briflythyren a llythyren fach. Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ystyr y Rheoliadau na chysondeb rhwng y ddau destun.

Pwynt Craffu Technegol 2(c):
Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y dylai’r testun Cymraeg fod wedi cyfleu ystyr “at least” yn Rheoliad 2(b). Mae’r Llywodraeth yn derbyn mai hepgoriad yw hyn ond, ar ôl ystyried y mater, mae o’r farn na fyddai’n briodol gwneud diwygiad na chywiriad i gywiro’r gwall.

Ein rheswm dros ddod i’r casgliad hwn yw ei bod yn ddigon clir y bydd P yn dal i fodloni’r disgrifiad os oes ganddo fwy na phum mlynedd o wasanaeth. Nid oes unrhyw bosibilrwydd y byddai llys na rhywun sy’n defnyddio’r ddeddfwriaeth yn dehongli’r cyfeiriad mewn modd sy’n eithrio eiriolwr neu gyfreithiwr yn yr Alban sydd â mwy na phum mlynedd o wasanaeth. Mae’r Llywodraeth yn diolch i’r Pwyllgor am dynnu ei sylw at yr hepgoriad. Fodd bynnag, am y rhesymau a nodir uchod, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu gadael yr offeryn fel ag y mae.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

6 Chwefror 2023